Rheolau cystadlu Achub y Plant Cymraeg
- Rhaid i’r lluniau a gofnodir gynnwys cŵn sy’n eiddo i chi neu’ch teulu yn unig
- Rhaid cyflwyno lluniau digidol YN UNIG ar ffurf JPG… dim fideos
- Dylech greu y lluniau eich hunan a nid cyflwyno lluniau gan ffotograffydd proffesiynol.
- Dylid cyflwyno llyniau trwy linc ddolen lanlwytho y wefan ar ol talu.
Os ydych chi’n cael anhawster mynd yn ôl i’r dudalen lwytho> cysylltwch â ni <ar unwaith fel y gallwn gywiro hyn.
- Bydd mynediad i fwy nag un dosbarth yn cynnwys rhodd ar wahân.
- Rhaid i’r ceisiadau gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost ac enw’ch ci.
- Bydd y beirniadu yn digwydd cyn gynted â phosib ar ôl i’r gystadleuaeth ddod i ben
-
Gofynnir £ 5 y cais i gefnogi gwaith Achub y Plant.
Cyhoeddir lluniau’r enillwyr ar oriel y sioe.
I wneud cais cliciwch ar y categori cŵn rydych wedi’i ddewis. Cewch talu trwy PayPal neu gerdyn Debyd / Credyd fel y nodir ar y dudalen dalu.
Bydd y chwe dosbarth mynediad: –
- Ci Bach Perffaith
- Arwyr Diwyd
- Hoff Gi Achub
- Ci Mwyaf Nadoligaidd
- Ci Bach Ciwt
- Ci Bythol Ifanc
Bydd enillydd pob categori yn derbyn llun o’u ci gan arlunydd lleol a bag mawr o bwyd ci Burns.
Rhoddir yr holl arian a godir i Achub y Plant ar gyfer eu gwaith dros blant bregus y byd.
Mae’r elusen Achub y Plant yn cadw’r hawl i gadw’r lluniau’r gystadleuaech at ddibenion hyrwyddo.
Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol, ac ni bydd unrhyw ohebiaeth.
Mae’r data a gesglir yn angenrheidiol er mwyn i’r sioe gael ei rhedeg yn llyfn ac mae’n cydymffurfio â GDPR, a’r Prosesydd Data yw e-glwb Arloesi Rotari a’r Defnyddiwr data yw Achub y Plant Cymru